R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd): Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru am y cytundeb arfaethedig ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi? OAQ(4)2112(FM)W
2. Rhodri Glyn Thomas (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am amseroedd aros i gleifion sy’n aros am lawdriniaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OAQ(4)2105(FM)
3. David Rees (Aberafan): Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod safonau addysgol mewn ysgolion uwchradd yn parhau i wella? OAQ(4)2115(FM) TYNNWYD YNOL
4. Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gloddio glo brig yng Nghymru? OAQ(4)2111(FM)
5. Sandy Mewies (Delyn): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i dorri cyfraddau ysmygu yng Nghymru? OAQ(4)2110(FM)
6. Keith Davies (Llanelli): A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer economi Cymru? OAQ(4)2114(FM)W
7. Lindsay Whittle (Dwyrain De Cymru): Pryd fydd y gwaharddiad ar ysmygu mewn ceir sy'n cludo plant yn cael ei roi ar waith? OAQ(4)2100(FM)
8. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg gynradd cyfrwng Cymraeg? OAQ(4)2116(FM)W
9. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i gyn-filwyr? OAQ(4)2103(FM)
10. Jeff Cuthbert (Caerffili): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd gwirfoddoli yng Nghymru? OAQ(4)2108(FM)
11. Peter Black (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn codi safonau addysgol ar gyfer dysgwyr dan anfantais? OAQ(4)2101(FM)
12. Andrew RT Davies (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynigion Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau TGAU ar gyfer disgyblion yng Nghanol De Cymru? OAQ(4)2107(FM)
13. Nick Ramsay (Mynwy): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau economaidd Llywodraeth Cymru ar gyfer de-ddwyrain Cymru? OAQ(4)2117(FM)
14. Eluned Parrott (Canol De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddinas-ranbarthau yng Nghymru? OAQ(4)2106(FM)
15. Alun Ffred Jones (Arfon): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo dysgu Cymraeg i oedolion? OAQ(4)2102(FM)W